BBC Radio Cymru 2’s afternoon pop-up to offer more choice to listeners
A week of programmes to offer more music and laughter

From the very beginning, the aim of Radio Cymru 2 was to offer more choice to listeners.
This week - the week of the Urdd National Eisteddfod in Brecon and Radnorshire - BBC Radio Cymru 2 will offer even more choice to listeners with a new programme in the afternoon called Ddim yn Ddiwedd y Byd (Not The End Of The World).
When BBC Radio Cymru 2 launched, Radio Cymru Programmes Editor Betsan Powys said that the second station would offer listeners a choice, by being innovative and offering different programmes from time to time. The afternoon pop-up programme is part of that plan.
From Monday 28 May to 2 June, a team of presenters will present programmes filled with music and personality, under the theme of It’s Not The End Of The World. The combination of presenters will change daily.
Radio Cymru will continue to offer full coverage from the Urdd Eisteddfod with two daily programmes between 10.30am-1pm, and between 1.30-5pm. Hywel Gwynfryn and Rhiannon Lewis will present O’r Maes, with Nia Lloyd Jones in the wings and Ffion Emyr on the maes in Llanelwedd.
Radio Cymru Programme Editor, Betsan Powys, says: “This is an exciting opportunity for us to offer even more choice to the listeners of Radio Cymru. Ths week, whilst Radio Cymru is broadcasting from the Eisteddfod maes in Llanelwedd, Elan Evans, Geraint Hardy, Sian Harries, Lara Catrin and Ifan Pritchard will be in the studio in Cardiff to present a week of afternoon pop-up programmes for radio Cymru 2, with contributions from the comic performer Sarah Breese.
“From the very beginning, the aim of Radio Cymru 2 was to offer more choice to listeners. The Sioe Frecwast has had a warm welcome from listeners, and we’re looking forwards to hear more new voices on the airwaves this week so that we can enjoy more laughter and more music.
“If you’ve had enough of listening to the competing on stage by mid-afternoon, it’s not the end of the world!”
Ddim yn Ddiwedd y Byd will air on BBC Radio Cymru 2 between 3-6pm from Monday to Friday this week, and 3-5pm on Saturday.
GE
Pop-yp prynhawn BBC Radio Cymru 2 i gynnig mwy o ddewis i wrandawyr
Wythnos o raglenni i gynnig mwy o gerddoriaeth a chwerthin
Yr wythnos yma - wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed - bydd BBC Radio Cymru 2 yn cynnig mwy o ddewis i wrandawyr gyda rhaglen newydd yn ystod y prynhawn o’r enw Ddim yn Ddiwedd y Byd.
Wrth lansio BBC Radio Cymru 2, dywedodd Betsan Powys Golygydd BBC Radio Cymru y byddai’r ail orsaf yn cynnig dewis i wrandawyr gan arloesi gyda sain a chynigion gwahanol o dro i dro. Mae’r rhaglen pop-prynhawn yn rhan o’r cynllun hwnnw.
O Ddydd Llun y 28ain o Fai i ddydd Sadwrn yr 2il o Fehefin, fe fydd tîm o gyflwynwyr yn cyflwyno rhaglen o gerddoriaeth a phersonoliaeth, gyda’r agwedd... dyw hi ‘Ddim yn Ddiwedd y Byd’, gyda’r cyfuniad o gyflwynwyr yn newid bob dydd.
Fe fydd Radio Cymru yn parhau i gynnig gwasanaeth llawn o Eisteddfod yr Urdd mewn dwy raglen ddyddiol a hynny rhwng 10.30am-1pm a 1.30-5pm. Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis fydd yn cyflwyno O’r Maes, gyda Nia Lloyd Jones y tu cefn i'r llwyfan, a Ffion Emyr yn crwydro maes y Sioe yn Llanelwedd.
Dywedodd Betsan Powys Golygydd BBC Radio Cymru: “Dyma gyfle cyffrous i ni gynnig hyd yn oed mwy o ddewis i wrandawyr Radio Cymru. Yr wythnos yma, tra bo Radio Cymru yn darlledu o faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd, fe fydd Elan Evans, Geraint Hardy, Sian Harries, Lara Catrin ac Ifan Pritchard yn y stiwdio yng Nghaerdydd i gyflwyno wythnos o raglenni pop-yp yn y prynhawn ar gyfer Radio Cymru 2, gyda chyfraniadau gan y perfformwraig gomedi Sarah Breese.
“O’r cychwyn cyntaf, bwriad Radio Cymru 2 oedd i gynnig mwy o ddewis i wrandawyr. Mae’r Sioe Frecwast wedi cael croeso cynnes gan wrandawyr ac rydym yn edrych ymlaen at glywed lleisiau newydd ar y tonfeydd yr wythnos yma er mwyn i ni cael mwynhau hyd yn oed mwy o chwerthin a mwy o cherddoriaeth.
“Os y’ch chi wedi cael llond bol ar y llwyfan erbyn canol p’nawn, dyw hi ddim yn ddiwedd y byd!”
GE