BBC Radio Cymru and the National Eisteddfod announce the winners of the two main competitions at Gŵyl AmGen

BBC Radio Cymru and the National Eisteddfod announce the winners of the two main competitions of the cultural festival, Gŵyl AmGen.

Published: 31 July 2020

The Eisteddfod received 34 entries for Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth (Poetry Competition) and 67 for Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith (Prose Competition). The winners will each receive a specially made stool produced by the National Eisteddfod’s Technical Officer, Tony Thomas using old materials from the Eisteddfod’s storeroom.

Terwyn Tomos is the Winner of Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth (Poetry Competition) - a piece of free verse or strict meter poetry between 24 and 30 lines on the theme of Ymlaen (Forward). His poem muses on his square mile and community in Cwm Degwel as he comes to appreciate what’s right in front of his eyes.

Terwyn is a former teacher from Plwyf Clydau who has made Llandudoch his home. He’s a poet who started competing at the Eisteddfod 15 years ago and has won 23 chairs including Gŵyl Fawr Aberteifi and Eisteddfod Pontrhydfendigaid. He has also won chairs at Eisteddfod y Wladfa in 2016 and 2018.

Archdruid and Chaired Poet, Myrddin ap Dafydd and Mererid Hopwood - a winner of the Eisteddfod’s Chair, Crown and Literary Medal, judged the entries.

Myrddin ap Dafydd says: "The depth of the square mile is the vision in the winning poem by Pererin. He expresses a vast realisation in a short poem. There’s freedom within the valley’s paths; today is the extension of a beautiful past; people are community. It’s local and national at the same time and is deserving of the Stôl Farddoniaeth.”

Llŷr Gwyn Lewis is the Winner of Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith (Prose Competition) - up to 500 words of prose on the theme of Gobaith (Hope). His piece is a short story focused on a twitter account where the virtual world meets the real world.

Llŷr, originally from Caernarfon, now lives in Cardiff. Llŷr has published poetry, fiction and articles in periodicals, including Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Barddas and O’r Pedwar Gwynt. Llŷr’s first volume of work Rhyw Flodau Rhyfel won Llyfr y Flwyddyn (Book of the Year) in the Creative Non-fiction category in 2015, and he’s also published a collection of poetry, Storm ar Wyneb yr Haul (2014) and a volume of short stories, Fabula (2017).

Authors Manon Steffan Ros and Guto Dafydd were the judges.

Manon Steffan Ros, author of Llyfr Glas Nebo - winner of Y Fedal Ryddiaith (Prose Medal) at the National Eisteddfod in Cardiff in 2018 says: “Claf Abercuawg encapsulates the unnerving feeling so many of us have that the world is off its axis, and finely portrays the way a pandemic and populism have shaken the comforting system we had.”

The festival, which is available to enjoy across BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 and BBC Cymru Fyw this weekend is a partnership with the National Eisteddfod. The ceremonies for Dysgwr yr Ŵyl AmGen (Welsh Learner of the Festival), Llyfr y Flwyddyn (Welsh Book of the Year) and Albym y Flwyddyn (Album of the Year) are also part of proceedings.

SG

BBC Radio Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi enillwyr dwy brif gystadleuaeth yr Ŵyl AmGen

Mae BBC Radio Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol yn cyhoeddi enillwyr y ddwy brif gystadleuaeth yng Ngŵyl AmGen.

Daeth 34 o geisiadau ar gyfer Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth a 67 ar gyfer Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith i mewn at yr Eisteddfod. Bydd yr enillwyr yn ennill stôl arbennig yr un wedi ei greu gan Brif Dechnegydd yr Eisteddfod Genedlaethol, Tony Thomas, a ddefnyddiodd hen ddeunyddiau o storfa’r Eisteddfod.

Terwyn Tomos yw Enillydd Cystadleuaeth y Stôl Farddoniaeth - darn o farddoniaeth gaeth neu rydd rhwng 24 a 30 llinell ar y testun Ymlaen. Gan ddefnyddio’r ffug enw Pererin, mae ei gywydd yn trafod ei filltir-sgwar a’i gymuned yng Nghwm Degwel wrth iddo ddod i werthfawrogi yr hyn sydd o dan ei drwyn.

Mae Terwyn yn gyn-athro sy’n dod o Blwyf Clydau ac wedi ymgartrefu yn Llandudoch. Mae’n fardd a ddechreuodd cystadlu mewn eisteddfodau 15 mlynedd yn ôl ac wedi ennill 23 o gadeiriau, gan gynnwys Gŵyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfod Pontrhydfendigaid. Mae o hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod y Wladfa yn 2016 a 2018.

Yr Archdderwydd a’r Prifardd Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood - Priflenor a Phrifardd - oedd yn feirniaid.

Meddai Myrddin ap Dafydd: “Dyfnder y filltir sgwâr yw gweledigaeth y gerdd fuddugol gan Pererin. Mae’n mynegi canfyddiad llawer mewn awdl fer. Mae rhyddid ar lwybrau’r cwm; mae heddiw’n ymestyniad o orffennol hardd; mae pobl yn gymuned. Mae’n lleol a chenedlaethol ar yr un pryd ac yn deilwng o’r Stôl Farddoniaeth.”

Llŷr Gwyn Lewis yw Enillydd Cystadleuaeth y Stôl Ryddiaith - darn o ryddiaith hyd at 500 gair ar y testun Gobaith. Gan ddefnyddio’r ffug enw Claf Abercuawg, mae ei ddarn yn stori fer sy’n sôn am gyfrif twitter lle mae'r byd rhithiol yn plethu gyda'r byd go iawn.

Mae Llŷr yn wreiddiol o Gaernarfon ac yn byw bellach yng Nghaerdydd. Mae Llŷr wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen ac erthyglau mewn cyfnodolion, gan gynnwys Ysgrifau Beirniadol, Poetry Wales, Barddas ac O’r Pedwar Gwynt. Enillodd Rhyw Flodau Rhyfel, cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol-Greadigol yn 2015, ac mae hefyd wedi cyhoeddi dwy gyfrol arall sef casgliad o gerddi, Storm ar Wyneb yr Haul (2014) a chyfrol o straeon byrion, Fabula (2017).

Manon Steffan Ros a Guto Dafydd oedd yn beirniadu.

Meddai Manon Steffan Ros, awdur y gyfrol fuddugol - Llyfr Glas Nebo - yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018: “Mae Claf Abercuawg yn dal i’r dim deimlad anesmwyth cynifer ohonom fod y byd oddi ar ei echel, ac yn portreadu’n gelfydd y modd y mae pla a phoblyddiaeth wedi siglo’r gyfundrefn gysurus oedd ohoni.”

Mae’r ŵyl, sydd i’w gweld a’i chlywed ar draws BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw y penwythnos hon, yn bartneriaeth gyda’r Eisteddfod Genedlaethol. A bydd seremonïau Dysgwr yr Ŵyl AmGen, Llyfr y Flwyddyn ac Albym y Flwyddyn hefyd yn rhan o’r cyfan.

SG