BBC Radio Cymru announces new lunchtime news and current affairs programme
BBC Radio Cymru has announced a new lunchtime line-up, due to kick off in November between 12pm and 2pm. Dros Ginio will be a news and current affairs service reflecting news in Wales and the world hosted by a team of experienced presenters. Dewi Llwyd will present on Monday and Friday, Jennifer Jones on Tuesday, Vaughan Roderick on Wednesday and Catrin Haf Jones on Thursday.

English Language Version
Rhuanedd Richards, Editor of BBC Radio Cymru, says: “If ever there was a need for a Welsh language programme to scrutinise the events around us, that time is now. We’re introducing a conversation for the nation at lunchtime to lift the lid on the day’s headlines. There will also be an opportunity to give the audience a voice and push for clear answers to the difficult questions to help us make sense of the world around us.
“We know, following conversations with our listeners, that they enjoy live programmes that can move quickly and respond to the news agenda. If it’s important to the people of Wales, we’ll give it airtime - from the latest Brexit discussions to the conversation on climate change.”
Dewi Llwyd, who will present Dros Ginio on Monday and Friday, says: “I count myself incredibly lucky to be offered an opportunity like this. Even after 40 years of broadcasting it’s always good to accept a new and exciting challenge. Presenting Post Prynhawn for seven years, especially in such turbulent times, has been an honour and this is another opportunity to delve into a range of subjects from politics to the arts, sport to business. I can’t wait.”
Jennifer Jones, who will present Dros Ginio on Tuesday, says: “It’s a real privilege to be back as part of the Radio Cymru team. Discussing the day’s events and hot topics will be top of the list, and putting those events in a political and social context. But we’ll also look at the lighter side of life and there’ll be plenty to make me and the listeners laugh over the course of two hours.”
Taro’r Post makes way for the new programme. Some of the other half-hour programmes broadcast at lunchtime will also come to an end with Dros Ginio incorporating many of the subjects discussed in those programmes. Benbaladr and Stiwdio will be broadcast in the early evening as well as the repeat of Talwrn y Beirdd.
Rhuanedd Richards says: “I’d like to thank Garry Owen and the team at Taro’r Post for all they’ve achieved over the years. Garry will continue to be a key member of the Radio Cymru news team and we’ll hear from him frequently. I’d also like to extend my thanks to the presenters and programme teams of the other lunchtime programmes.”
Pictured: Catrin Haf Jones, Vaughan Roderick, Jennifer Jones, Dewi Llwyd
SG
Welsh Language Version
“Sgwrs i’r genedl dros ginio”, cyhoeddi rhaglen newyddion newydd i BBC Radio Cymru
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi rhaglen newydd dros amser cinio i gychwyn ym mis Tachwedd rhwng 12 a 2pm. Bydd Dros Ginio yn wasanaeth newyddion a materion cyfoes i adlewyrchu Cymru heddiw gyda thîm o gyflwynwyr profiadol wrth y llyw. Dewi Llwyd fydd yn cyflwyno ddydd Llun a Gwener, Jennifer Jones ddydd Mawrth, Vaughan Roderick ddydd Mercher a Catrin Haf Jones ddydd Iau.
Dywed Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru: “Os bu angen erioed am raglen i graffu ar ddigwyddiadau’r byd o’n cwmpas, a hynny drwy lygaid y Cymry, dyma’r amser. Felly, rydym yn cyflwyno sgwrs i’r genedl dros ginio i drafod a mynd o dan groen stori fawr y dydd, yn ogystal â rhoi gofod i lais y gynulleidfa drwy wthio am ymatebion clir i’r cwestiynau caled i’n helpu i wneud synnwyr o’r byd o’n cwmpas
“Ry’n ni’n gwybod, yn dilyn sgyrsiau gyda’r gwrandawyr eu bod yn mwynhau rhaglenni byw sy’n gallu symud yn gyflym i ymateb i newyddion. Os yw e’n bwysig i bobl Cymru, fe fydd lle i’w drafod ar y rhaglen – o’r diweddara gyda thrafodaethau Brexit i’r drafodaeth am newid hinsawdd. Dyma ddwy awr i ddal yr eiliad; yr eiliadau holl bwysig hynny sy’n diffinio’n byd heddiw.
“Yn ogystal â newyddion a materion cyfoes, bydd cyfle i drafod y celfyddydau, chwaraeon, yr arian yn eich poced a mwy. Mewn brawddeg; os yw’n fater o bwys i’r gwrandawyr bydd lle i’w drafod ar Dros Ginio.”
Dywed Dewi Llwyd, fydd yn cyflwyno Dros Ginio ddydd Llun a dydd Gwener: "Rydw i'n ystyried fy hun yn ffodus iawn y bydda i'n cael y cyfle arbennig hwn i drafod y byd a'i bethau dros ginio ddwywaith yr wythnos. Hyd yn oed wedi deugain mlynedd o ddarlledu mae wastad yn braf cael her newydd gyffrous. Mae cyflwyno'r Post Prynhawn am saith mlynedd, yn enwedig yn ystod cyfnod mor gythryblus, wedi bod yn anrhydedd, a daw mwy o gyfle fan hyn i dreiddio'n ddyfnach i wahanol feysydd o wleidyddiaeth i'r celfyddydau, o chwaraeon i'r byd busnes. Dwi'n edrych ymlaen yn arw."
Dywed Jennifer Jones, fydd yn cyflwyno Dros Ginio ddydd Mawrth: “Mae’n fraint cael bod yn ôl yn rhan o dîm Radio Cymru. ‘Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o gael trin a thrafod y pynciau llosg sy’n effeithio arnom ni gyd, a hynny yn ystod cyfnod tyngedfennol, yn wleidyddol ac yn gymdeithasol. Ond fydd ‘na ddigon o gyfle i drafod pethau ysgafnach hefyd a chael thipyn o hwyl.”
Bydd Taro’r Post yn dod i ben yn ogystal â rhai o’r rhaglenni hanner awr a ddarlledir yn ystod amser cinio wrth i Dros Ginio ymgorffori rhai o’r pynciau oedd dan sylw yn y rhaglenni hynny. Bydd Benbaladr a Stiwdio yn cael eu darlledu fin nos yn ystod yr wythnos yn hytrach nag yn ystod y dydd yn ogystal ag ail-ddarllediad Talwrn y Beirdd.
Dywed Rhuanedd Richards: “Mae’n diolch ni’n fawr Garry Owen a thîm cynhyrchu Taro’r Post am yr hyn y mae nhw wedi ei gyflawni dros y blynyddoedd. Bydd Garry yn parhau i fod yn aelod allweddol o wasanaeth newyddion yr orsaf a byddwn yn parhau i glywed ei lais. Hoffwn ddiolch hefyd i gyflwynwyr a thimau rhaglenni eraill yr orsaf dros amser cinio.”
Llun: Catrin Haf Jones, Vaughan Roderick, Jennifer Jones, Dewi Llwyd
SG