Increase in downloads for BBC Radio Cymru’s learners podcast as the station looks forward to celebrating Learning Welsh Week

BBC Radio Cymru’s Welsh Learners podcast, Pigion y Dysgwyr, has seen an increase in the number of downloads, with 20% more downloads between March and July 2020 compared to the same period last year.

Published: 6 October 2020
Following the success of last year’s Learning Welsh Week celebration, it’s great to be collaborating with the National Centre for Learning Welsh once again this year, to provide an array of special programmes to thank learners, and new Welsh speakers, for tuning in to the station regularly and to welcome new listeners.
— Rhuanedd Richards

Presented by Tomos Morse, the podcast for those learning Welsh and those who have learnt the language, tops the downloads chart for Radio Cymru’s podcasts, which equates to 32% of the total (compared to 27% in 2019).

The announcement comes as Radio Cymru prepares to celebrate Learning Welsh Week (10-16 October) which is the result of a special partnership between BBC Radio Cymru and the National Centre for Learning Welsh. The week offers a unique platform for Welsh learners and provides more useful content for those learning the language.

Rhuanedd Richards, Editor of Radio Cymru and Cymru Fyw, says: “Following the success of last year’s Learning Welsh Week celebration, it’s great to be collaborating with the National Centre for Learning Welsh once again this year, to provide an array of special programmes to thank learners, and new Welsh speakers, for tuning in to the station regularly and to welcome new listeners.

“We appreciate how crucial those who are learning Welsh are to the success of Radio Cymru and Radio Cymru 2 - as listeners and contributors - and it makes me proud that new Welsh speakers can be heard regularly on our services throughout the year.

“Last year, when we held a special week like this one, we saw an increase in the number of people tuning in to our services, and as an Editor that comes from a family of Welsh learners, I appreciate how important it is for learners to be able to hear the Welsh language in their daily lives. I sincerely hope that the special week this year will be as successful as last year’s and that we will see more people once again joining Welsh classes as a result.”

There has been an obvious appetite to learn Welsh during lockdown. Since mid-March, the National Centre for Learning Welsh has seen an increase in numbers with over 8,000 new learners taking part in online taster sessions and around 900 new learners on national blended courses, which combine virtual classroom learning with online self-study.

Efa Gruffudd Jones, Chief Executive of the National Centre for Learning Welsh, says: “The Centre has responded to the public health crisis with a host of digital initiatives that have enabled our learners to continue learning Welsh at home. We are delighted that we have also attracted new learners during lockdown, with our blended and online courses, and we anticipate that demand for flexible teaching methods will continue into the future.

“We are delighted to be working again with BBC Radio Cymru to host this special week celebrating Learning Welsh. Listening to the radio is a great way to practice your language skills and it will also be great to hear inspirational stories from learners from Wales and beyond across the service.”

The provision on BBC Radio Cymru will include:

  • News bulletins every night at 8pm for learners
  • Special packages following learner Kai Saraceno
  • An opportunity for a group of learners to take over every afternoon on Ifan Evans’ programme
  • Geraint Lloyd will be turning his attention to Welsh tutors
  • A special programme Dyddiadur Dysgwyr yn y Byd

The result of a poll will also be announced, which asked for Welsh learners’ favourite song on Ifan Evans’ programme on Radio Cymru. The shortlist of 10 has been chosen by tutors at the National Centre for Learning Welsh, and learners can vote here.

GJ4

Cynnydd yn lawrlwythiadau podlediad dysgwyr BBC Radio Cymru wrth i’r orsaf edrych ymlaen at Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg

  • 20% yn fwy o lawrlwythiadau rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020

Mae podlediad Pigion y Dysgwyr gan BBC Radio Cymru wedi gweld cynnydd yn y nifer o lawrlwythiadau, gyda 20% yn fwy o lawrlwythiadau rhwng Mawrth a Gorffennaf 2020 i gymharu gyda’r un cyfnod y llynedd.

Mae’r podlediad, a gyflwynwyd gan Tomos Morse ar gyfer y rhai sy’n dysgu ac wedi dysgu Cymraeg, ar frig y rhestr o ran y nifer o lawrlwythiadau o bodlediadau Radio Cymru ac yn gyfrifol am 32% o’r cyfanswm (i gymharu gyda 27% yn 2019).

Daw’r cyhoeddiad wrth i Radio Cymru baratoi at Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg (10-16 Hydref) sy’n ffrwyth partneriaeth arbennig rhwng BBC Radio Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd yr wythnos yn rhoi platfform unigryw i ddysgwyr Cymraeg ac yn darparu mwy o gynnwys defnyddiol i’r rheiny sy’n dysgu’r iaith.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Golygydd Radio Cymru a Chymru Fyw: “Yn dilyn llwyddiant yr Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg llynedd, mae’n dda cael cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol unwaith eto eleni, a threfnu arlwy arbennig o raglenni er mwyn diolch i ddysgwyr, a siaradwyr Cymraeg newydd, am droi at yr orsaf yn rheolaidd ac i groesawu gwrandawyr newydd.

“Rydym yn gwerthfawrogi pa mor allweddol yw’r rheiny sy’n dysgu’r Gymraeg i lwyddiant Radio Cymru a Radio Cymru 2 – fel gwrandawyr a chyfranwyr – ac mae hi wedi bod yn destun balchder i mi fod siaradwyr Cymraeg newydd i’w clywed yn rheolaidd ar ein gwasanaethau trwy gydol y flwyddyn.

“Llynedd, wrth gynnal wythnos arbennig fel hon, mi welon ni gynnydd yn nifer y bobl oedd yn troi at ein gwasanaethau, a fel Golygydd sy’n dod o deulu cyfan sydd wedi dysgu’r Gymraeg, rwy’n gwerthfawrogi pa mor bwysig yw medru clywed y Gymraeg i ddysgwyr yn eu bywydau pob dydd. Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd yr wythnos arbennig hon eleni yr un mor llwyddiannus a llynedd, ac y byddwn yn gweld mwy o bobl unwaith eto yn ymuno gyda’r dosbarthiadau dysgu Cymraeg o’r herwydd.”

Mae’r Cyfnod Clo yn amlwg wedi codi blas ar ddysgu Cymraeg. Ers canol mis Mawrth mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi gweld cynnydd yn ei niferoedd, gyda dros 8,000 o ddysgwyr newydd yn dilyn cyrsiau blasu ar-lein ac oddeutu 900 o ddysgwyr newydd yn dilyn cyrsiau cyfunol cenedlaethol, sy’n cyfuno dysgu mewn dosbarth rhithiol gyda gwaith hunan-astudio ar-lein.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae’r Ganolfan wedi ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus gyda llu o fentrau digidol sy wedi galluogi ein dysgwyr i barhau i ddysgu Cymraeg yn eu cartrefi. Ry’n ni’n falch iawn ein bod ni wedi denu dysgwyr newydd hefyd yn ystod y Cyfnod Clo, gyda’n cyrsiau cyfunol a chyrsiau ar-lein, a ry’n ni’n rhagweld y bydd y galw am ddulliau dysgu hyblyg yn parhau i’r dyfodol.

”Ry’n ni’n falch iawn o gydweithio eto gyda BBC Radio Cymru i gynnal yr wythnos arbennig hon sy’n dathlu Dysgu Cymraeg. Mae gwrando ar y radio yn ffordd wych o ymarfer eich sgiliau iaith a bydd yn braf, hefyd, clywed straeon ysbrydoledig gan ddysgwyr o Gymru a thu hwnt ar draws y gwasanaeth.”

Ymysg yr arlwy ar BBC Radio Cymru fe fydd:

  • Bwletin newyddion bob nos am 8pm ar gyfer dysgwyr
  • Pecynnau arbennig yn dilyn y dysgwr Kai Saraceno
  • Cyfle i griw o ddysgwyr gymryd yr awenau bob prynhawn ar rhaglen Ifan Evans
  • Geraint Lloyd yn rhoi sylw i diwtoriaid Cymraeg
  • Rhaglen arbennig Dyddiadur Dysgwyr yn y Byd

Bydd hefyd cyhoeddiad canlyniad pôl sy’n gofyn beth yw hoff gân y rheiny sy’n dysgu Cymraeg ar raglen Ifan Evans ar Radio Cymru. Mae rhestr fer o 10 wedi ei dewis gan diwtoriaid y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a gall dysgwyr fwrw eu pleidlais yma.

GJ4