Rhys Ifans and Eädyth Crawford star in Radio Cymru 2’s Gŵyl Amgen cultural festival lineup
BBC Radio Cymru 2 is extending its broadcasting hours, from 7am to 7pm for Gŵyl AmGen, a long weekend of programmes and content celebrating Wales’ best culture and music, also on BBC Radio Cymru and BBC Cymru Fyw, 30 July - 2 August.

BBC Radio Cymru 2 is extending its broadcasting hours, from 7am to 7pm for Gŵyl AmGen, a long weekend of programmes and content celebrating Wales’ best culture and music, also on BBC Radio Cymru and BBC Cymru Fyw, 30 July - 2 August.
As part of the lineup, Eädyth Crawford, one of Wales’ most exciting young musicians and producers, will share her choice of music on the festival’s Saturday afternoon.
Eädyth says, “I’m thrilled to be part of this year’s AmGen festival. I’m really looking forward to sharing my musical influences on Radio Cymru 2. Although I’m going to miss all the gigs at the Eisteddfod this year, it’s going to be an opportunity for me to uncover the roots of my music.”
Radio Cymru 2 is the home of the festival’s music, offering listeners the best mix of music, reflecting on the rich variety of the Eisteddfod stages.
Also, as part of the AmGen festival, Rhys Ifans looks back over the last few months in a programme which portrays his life during the lockdown in London and shares his choice of music.
Lisa Gwilym, who has been presenting on Radio Cymru 2 since the station’s launch says, “This recent period has been challenging for everyone and I’m really pleased that we can bring everyone together in one extended ‘bubble’ to listen to the Gŵyl AmGen festival on Radio Cymru 2. Although we’re going to miss watching the bands on the stages of the Maes, Tŷ Gwerin and Maes B this year, Gŵyl AmGen is going to offer Radio Cymru 2 listeners loads of fantastic music - it’s the home of Wales’ best music.”
Radio Cymru 2’s AmGen schedule will be announced shortly.
JH3
Welsh Language version
Rhys Ifans ac Eädyth Crawford yn rhan o arlwy estynedig Gŵyl Amgen BBC Radio Cymru 2
Mae oriau darlledu BBC Radio Cymru 2 yn ymestyn o 7 y bore i 7 yr hwyr yn ystod Gŵyl AmGen BBC Cymru, penwythnos hir o raglenni a chynnwys sy’n dathlu’r gorau o ddiwylliant a cherddoriaeth Cymru, fydd hefyd ar BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw, rhwng 30 Gorffennaf a 2 Awst.
Fel rhan o’r arlwy, bydd Eädyth Crawford, un o gerddorion a chynhyrchwyr ifanc mwyaf cyffrous Cymru, yn rhannu ei dewis o gerddoriaeth ar brynhawn Sadwrn yr ŵyl.
Meddai Eädyth, “Dwi mor gyffrous i fod yn rhan o’r Ŵyl AmGen eleni. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at rannu fy nylanwadau cerddorol pan fyddaf yn cyflwyno ar Radio Cymru 2. Er byddaf yn colli holl gigs eleni yn yr Eisteddfod, dwi’n meddwl bydd y cyfle hwn yn dangos o ble mae fy ngherddoriaeth wedi dod.”
Radio Cymru 2 yw llwyfan cerddoriaeth Gŵyl AmGen, gan roi cynnig i wrandawyr fwynhau arlwy gerddorol fydd yn adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog llwyfannau yr Eisteddfod.
Hefyd fel rhan o’r Ŵyl Amgen, bydd Rhys Ifans yn adlewyrchu ar y cyfnod diwethaf mewn rhaglen sy’n bortread o’i fywyd yn Llundain dros y cyfnod clo ac yn rhannu ei ddewis cerddorol.
Meddai Lisa Gwilym, sydd wedi bod yn cyflwyno ar Radio Cymru 2 ers y cychwyn,
“Mae’r cyfnod dwytha wedi bod yn un mor anodd i bawb, felly dwi’n ofnadwy o falch fod ’na gyfle i bawb ddod at ei gilydd fel un ‘bybl’ mawr estynedig drwy wrando ar yr Ŵyl AmGen ar Radio Cymru 2. I’r miloedd ohona ni sy’n mynd i weld colled mynd i wylio bandie ar Lwyfan Y Maes, Tŷ Gwerin neu Maes B, mi fydd yr Ŵyl AmGen yn dod â llwyth o gerddoriaeth wych i wrandawyr Radio Cymru 2 – cartref hoff gerddoriaeth Cymru.”
Bydd amserlen Gŵyl AmGen ar Radio Cymru 2 yn cael ei chyhoeddi maes o law.