Rhys Ifans shares his ‘monastic’ lockdown experiences on BBC Radio Cymru 2 as part of Gŵyl AmGen cultural festival
In a special Welsh language programme for BBC Radio Cymru 2, as part of BBC Wales’ Gŵyl AmGen cultural festival, Rhys Ifans shares his personal experiences, reconnecting with his surroundings, during lockdown.

It’s been a very monastic experience and I made sure I had a daily ritual. I started running. I’d never been running before, unless I got paid for it, or running away from trouble.
While living alone in a London flat without a garden, behind Waterloo station, on the banks of the Thames, the actor was spending his days in 1930s Alabama, preparing for his role in the drama To Kill A Mockingbird, a story of racial inequality. A month later, lockdown was announced. Rhys Ifans talks about his experiences on Radio Cymru 2, Friday 31 July at 4pm.
“Your gut instinct, in this situation is to go home, first and foremost, and I wanted to be with my Mum, who’s also living on her own. I wanted to be close to my friends and family, so I was eager to go back to Wales. But of course, that was impossible. It wasn’t an option. I happened to be in this flat in London, and it’s where I stayed.
“Living in a big city, one of the world’s biggest cities, when something cataclysmic happens, is a worry. When you’ve seen those end-of-the-world apocalyptic films, it sets the scene for the months ahead. To be honest, when I look back now, I was pleased in a way, because it’s been a real privilege to have spent time in London during this period. I’ve been able to see the capital city, after hundreds of years, in a state of peace and quiet. It’s been mind-blowing, it’s been dramatic, and the lockdown transformed London in an instant.
“Overnight the place became silent. I wanted to walk those quiet streets, and felt that history and I were walking hand-in-hand, somehow. Before the lockdown, history was something that happened to other people, in another time, but all of a sudden, history was happening here in the present time.
“It’s been a very monastic experience and I made sure I had a daily ritual. I started running. I’d never been running before, unless I got paid for it, or running away from trouble. For the first time I actually felt the buzz runners often talk about, and that feeling of your body being active. It was a wonderful feeling. I still go running. So I’ve developed habits which I’ve kept. I was eating a healthy diet. I had to decide whether I was going to go down the Toblerone road or the broccoli road. I chose the broccoli road.
“I think, for me, it was something special to be part of a city that changed so dramatically overnight. I saw London as a kind of enormous courtesan that was, for the first time, able to lie back on her chaise lounge after centuries of hard graft, entertaining people, while the tide in the Thames kept rising and falling. I saw the Thames every day, like the city’s lungs, if you like. Looking out at this constant change became a big metaphor and breathing, of course, was such a dominant theme throughout this period. The Thames’ tides have been rising and falling, rising and falling for centuries, and this courtesan has seen so many plagues passing through her streets. This mantra of seeing things coming and going, coming and going, coming and going… became a personal mantra for me. It was comforting as well because it’s true. We haven’t got a clue what the future holds and it’s good to know that we won’t know as well - it’s not being afraid of it, just recognising it. That’s a fact which I found to be of great comfort.”
The lockdown period was a sensory awakening for Rhys Ifans and the feeling of eerie “kenopsia”, a place that's usually bustling with people but is now abandoned and quiet, was ever present.
During the lockdown, he kept in daily contact with his Mum in Ruthin, north Wales, and is very grateful to her community.
“I was on the phone to Mum twice a day, every morning and afternoon. She lives on her own as well and I was desperate to see her. Mum’s seen loads more people than I have. She lives in an estate in Ruthin and her neighbours have been amazing. She’s had so much support. When you’re isolating in London, you do think about the value of community. I can’t thank her neighbours, and the people of Ruthin, enough for all the love and care shown to her. It certainly made my lockdown a lot easier.”
After appreciating the experience of seeing London in a new light, during the lockdown, and reliving memories in areas he called home, the death of George Floyd had a big impact on him.
“It’s a strange irony, to think that I started this period, studying the history of racism in America and all of a sudden, I was seeing racism here, happening in front of my eyes - and that transported me back to the present, with a jolt.”
SM2
Rhys Ifans yn trafod profiad ‘monastig’ y cyfnod clo mewn cyfweliad ar BBC Radio Cymru 2 fel rhan o’r Ŵyl AmGen
Mewn rhaglen arbennig ar gyfer Radio Cymru 2, ac fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Cymru, mae Rhys Ifans yn rhannu ei brofiadau personol ac ailgysylltu gyda’r byd o’i gwmpas yn ystod y cyfnod clo.
Tra’n byw mewn fflat ar ei ben ei hun y tu ôl i orsaf Waterloo, heb ardd, ar lannau’r Tafwys, roedd yr actor yn paratoi ar gyfer y ddrama To Kill A Mockingbird, stori am hiliaeth yn America. Fis yn ddiweddarach, dechreuodd y cyfnod clo. Mae Rhys Ifans yn datgelu ei brofiadau ar Radio Cymru 2 brynhawn Gwener, 31 Gorffennaf am 4 o’r gloch.
“Yn reddfol, mewn sefyllfa fel yna mae rhywun yn dueddol o eisiau bod adre, yn gyntaf oll, wrth gwrs, gyda fy Mam, oedd hefyd yn byw ar ei phen ei hun ac ro’n i’n meddwl dw i eisiau bod yn agos at fy nheulu a ffrindiau, so ro’dd ’na dynfa i fynd nôl i Gymru. Ond roedd hynna wrth gwrs yn amhosib. Doedd gynna i ddim opsiynau i wneud hynna ac ro’n i’n digwydd bod yn y fflat yma yn Llundain a dyna lle arhosais i.
“Mae bod mewn dinas fawr, un o ddinasoedd mwyaf y byd, pan fod rhywbeth cataclismaidd yn digwydd yn poeni rhywun. Mae rhywun wedi edrych ar y ffilmiau rhith diwedd y byd, apocalypsis hyn a’r llall, a rhywun yn rhagweld dyna fydd y tirwedd am y misoedd i ddod. Ond a dweud y gwir, o edrych nôl mi o’n i’n falch mewn ffordd, neu mi oedd o’n anrhydedd cael bod yn Llundain yn ystod y cyfnod yma. Dw i’n meddwl mai’r rheswm pennaf i fi oedd cael bod yn dyst i’r ddinas yma am y tro cyntaf, ers cannoedd o flynyddoedd, cael gweld y lle mewn hedd a thawelwch. Mi oedd o’n ysgytwol, mi oedd o’n ddramatig, mi oedd o’n instant fel wnaeth y lockdown effeithio Llundain.
“Dros nos fe wnaeth y lle dawelu yn gyfan gwbl. Mae rhywun yn wirioneddol deimlo fel cerdded y strydoedd gwag, fy mod i a hanes yn cerdded law yn llaw, rhywsut. O’r blaen roedd hanes yn rhywbeth oedd yn digwydd i bobl eraill, neu oedd wedi digwydd yn y gorffennol, ond yn sydyn iawn, roedd hanes yn digwydd yn y presennol.
“Mi oedd o’n brofiad monastig iawn. Wnes i’n siŵr bod genna i ddefod ddyddiol. Fe wnes i gychwyn rhedeg. Dw i erioed wedi rhedeg os nad wy’n cael fy nhalu, neu wedi torri’r gyfraith. Am y tro cynta fe wnes i actually cael y buzz yna mae pawb sy’n rhedeg yn sôn am, y teimlad yna fod dy gorff di yn effro, rhywsut. Roedd hwnna’n deimlad bendigedig. Rwy’n dal i redeg. So habits newydd wedi eu cychwyn ac yn parhau i fod. Ro’n i’n bwyta’n iach iawn. Ro’n i’n meddwl mae rhaid i fi wneud penderfyniad. Ydw i’n mynd i fynd lawr llwybr Toblerone neu mynd i lawr llwybr brocoli. Fe wnes i ddewis y llwybr brocoli.
“Dw i’n meddwl, i fi, yr anrhydedd o gael bod mewn dinas oedd yn newid yn ddramatig dros nos. Ro’n i’n gweld Llundain fel math o courtesan enfawr sydd wedi bod yn diddanu ac yn gweithio ac yn llafurio am ganrifoedd, ac am y tro cyntaf, mi oedd hi’n cael cyfle i orwedd nôl ar ei chaise lounge tra bod y llanw yn y Thames yn codi ac yn disgyn. Ac ro’n i’n gweld y Thames bob dydd oherwydd fe wnaeth y Thames droi fewn i ryw fath o ysgyfaint, os lici di, i’r ddinas yma. Oedd gwylio’r llanw yna’n mynd a dod yn fetaffor mawr iawn ac wrth gwrs roedd anadlu yn thema, yn rhywbeth oedd ar feddwl pob bod byw yn ystod y cyfnod yma. A hefyd fod y llanw ma wedi mynd a dod, mynd a dod am ganrifoedd a bod y ddinas fawr yma, bod y courtesan wedi gweld sawl pla yn mynd a dod trwy ei strydoedd hi. Fe ddaeth y mantra ‘mynd a dod mae pob dim, mynd a dod mae pob dim, mynd a dod mae pob dim…’ Fe ddaeth hwnna yn rhyw fath o fantra bach personol i fi. Roedd e’n dod â chysur mawr achos mae o’n wir. Does gynna ni ddim syniad beth mae’r dyfodol yn mynd i ddod, beth sydd yna o’n blaenau ni, ac mae yna gysur i’w gymryd o hynna, o wybod, o fod yn sicr nad ydan ni’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd, ddim i ofni fo, jyst bod yn sicr. Mae hwnna’n ffaith. Ac roedd cysur mawr o fyw gyda’r ffaith yna.”
Roedd y cyfnod clo yn ddeffroad synhwyrau i Rhys Ifans a’r teimlad iasol, “kenopsia”, o fod mewn lle gwag, sy’n arfer bod yn llawn pobl, yn deimlad cyson iddo.
Yn ystod y cyfnod clo bu’n cadw mewn cysylltiad gyda’i fam yn Rhuthin yn ddyddiol ac mae’n canmol cefnogaeth y gymuned.
“Ro’n i’n ffonio Mam ddwywaith y dydd, yn y bore a’r prynhawn. Roedd Mam ar ei phen ei hun hefyd ac ro’n i’n torri fy mol eisiau gweld hi. Roedd Mam yn gweld can gwaith mwy o bobl na fi. Mae hi’n byw mewn stad o dai yn Rhuthin ac mae ei chymdogion hi yn anhygoel. Mae hi wedi cael gofal arbennig. Mae rhywun yn cofio hynna wrth fyw yn Llundain yn ystod y pandemig, be ydy gwerth cymuned. Fedra i ddim diolch digon i’w chymdogion a phobl Rhuthin am roi cymaint o ofal a chariad iddi dros yr amser. Fe wnaeth hynna wneud fy lockdown i lot haws.”
Ar ôl gwerthfawrogi’r profiad o weld Llundain mewn golau newydd yn ystod y cyfnod clo, ac yn hel atgofion wrth grwydro’r ardaloedd sydd wedi bod yn gartref iddo dros y blynyddoedd, fe gafodd llofruddiaeth George Floyd effaith fawr arno.
“Roedd yr eironi yn od, fy mod i wedi dechrau’r lockdown yma rhywsut yn trwytho fy hun yn hanes hiliaeth yn America ac yn sydyn iawn, mi oedd yr hiliaeth yna yn digwydd o mlaen i, ar y pryd ac mi wnaeth o’n ysgwyd i nôl i’r presennol mewn ffordd anhygoel”.
SM2