Jason Mohammad to showcase the National Eisteddfod in Cardiff Bay in two special programmes

Fresh from the World Cup in Russia Jason Mohammad will be on home-turf next week as he brings all the fun and entertainment of the National Eisteddfod of Wales to BBC One Wales in two special programmes.

Published: 3 August 2018
The National Eisteddfod is a showcase for the best of Welsh culture, and as a Cardiff boy, hosting the BBC coverage in my home city will be extra special for me this year.
— Jason Mohammad

For the first time in over a decade, BBC One Wales will broadcast the highlights on Wednesday, August 8 and Friday, August 10 at 7.30pm. These programmes will showcase the best of what the National Eisteddfod of Wales has to offer and how one of Wales’ oldest festivals is evolving to remain a relevant cultural force.

Jason will meet some of the most prominent figures from this year’s Eisteddfod, including its Honourary President - and legendary DJ - Huw Stephens and Wales and Lions rugby legend Jamie Roberts, who will be one of the privileged figures welcomed into the Gorsedd of the Bards this year. He’ll also be introducing audiences to several colourful characters that make the Eisteddfod the vibrant cultural festival it is today.

As well as showcasing the traditional ceremonies of the Chair and the Crown, proud Cardiffian, Jason will be there to see the Butetown carnival team-up with the Eisteddfod for a Saturday night spectacle. He’ll speak to Bryn Terfel as he prepares to take part in a musical tribute to the singer, actor and political activist Paul Robeson 50 years after he sang in the 1958 Eisteddfod in Ebbw Vale. He will also visit the ‘Mas ar y Maes’ (‘Out on the field’) events, organised in partnership with Stonewall Cymru, the Eisteddfod and the local LGBT community. And Jason will take a moment to look around Y Lle Celf - the largest temporary modern art exhibition in Europe - and meet up with last year’s winner to hear about her success.

Speaking ahead of the National Eisteddfod, Jason Mohammad, says: “The National Eisteddfod is a showcase for the best of Welsh culture, and as a Cardiff boy, hosting the BBC coverage in my home city will be extra special for me this year. I’m looking forward to meeting the competitors and the local people who are getting involved in my favourite time of the year. We will be highlighting some of the most wonderful voices and talents in Wales and showing them to people who wouldn’t ordinarily follow the Eisteddfod - and that is a big thrill for me. We are a nation of supremely talented musicians, poets, writers and singers - and we will be celebrating that in our coverage.”

The National Eisteddfod of Wales take place in Cardiff Bay from 3-11 August.

Eisteddfod with Jason Mohammad will be broadcast on Wednesday, August 8 and Friday, August 10, BBC One Wales, 7.30pm.

BBC Wales will also produce the Eisteddfod coverage for S4C with the following programmes:

  • Croeso I’r Eisteddfod - Friday, 8pm
  • Rhaglen Y Dydd - Saturday, 10am; Sunday, 12pm; Monday-Saturday, 10am
  • Mwy O’r Maes - Saturday, 8pm; Sunday, 9.35pm; Monday, 8pm; Tuesday, 8pm; Wednesday, 9.30pm; Thursday, 8pm; Friday, 9.30pm & Saturday, 8pm
  • Oedfa’r Eisteddfod - Sunday, 11am
  • Y Babell Lên - Monday, 10.30pm; Tuesday, 10pm; Wednesday, 10.30pm; Thursday, 10pm; Friday, 10.30pm & Saturday, 10.30pm
  • Uchafbwyntiau’r Wythnos - Sunday, 7.30pm
  • Uchafbwyntiau’r Babell Lên - Sunday, 10.30pm

GE

Jason Mohammad yn rhoi sylw i’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd mewn dwy raglen arbennig

Ac yntau newydd ddychwelyd o Gwpan y Byd yn Rwsia, bydd Jason Mohammad yn ôl yn ei gynefin yr wythnos nesaf yn dod â hwyl a difyrrwch yr Eisteddfod Genedlaethol i BBC One Wales mewn dwy raglen arbennig.

Am y tro cyntaf mewn mwy na degawd, bydd BBC One Wales yn darlledu’r uchafbwyntiau nos Fercher, Awst 8 a nos Wener, Awst 10 am 7.30pm. Bydd y rhaglenni’n dangos y gorau o arlwy’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn dangos sut mae un o wyliau hynaf Cymru yn esblygu i barhau’n rym diwylliannol perthnasol.

Bydd Jason yn cwrdd â rhai o unigolion mwyaf blaenllaw'r Eisteddfod eleni, gan gynnwys y Llywydd Anrhydeddus - a’r DJ chwedlonol - Huw Stephens, a chwaraewr rygbi chwedlonol Cymru a’r Llewod, Jamie Roberts, sydd ymysg y bobl freintiedig a fydd yn cael eu hurddo i Orsedd y Beirdd eleni. Bydd hefyd yn cyflwyno’r cynulleidfaoedd i nifer o gymeriadau lliwgar sy’n cyfrannu at wneud yr Eisteddfod yn ŵyl ddiwylliannol fywiog.

Yn ogystal â rhoi sylw i’r Cadeirio a’r Coroni, bydd Jason yn gweld criw carnifal Tre-biwt yn ymuno â’r Eisteddfod mewn sioe fawr ar y nos Sadwrn. Bydd yn siarad â Bryn Terfel wrth iddo baratoi i gymryd rhan mewn teyrnged gerddorol i’r canwr, yr actor a’r ymgyrchydd Paul Robeson hanner can mlynedd ar ôl iddo ganu yn yr Eisteddfod yng Nglynebwy yn 1958. Bydd hefyd yn ymweld â digwyddiadau ‘Mas ar y Maes’, sy’n cael eu trefnu mewn partneriaeth â Stonewall Cymru, yr Eisteddfod a’r gymuned LHDT leol. A bydd Jason yn cael cyfle i grwydro’r Lle Celf - sef yr arddangosfa dros dro fwyaf o gelf fodern yn Ewrop - ac yn cwrdd ag enillydd y llynedd i glywed am ei llwyddiant.

Cyn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Jason Mohammad: “Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dangos diwylliant Cymru ar ei orau, ac fel bachgen o Gaerdydd, peth arbennig iawn fydd cyflwyno rhaglenni’r BBC yn fy ninas fy hun. Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r cystadleuwyr a phobl yr ardal a fydd yn chwarae eu rhan yn fy hoff adeg i o’r flwyddyn. Byddwn ni’n tynnu sylw at rai o’r lleisiau a’r doniau mwyaf bendigedig yng Nghymru, ac yn eu dangos i bobl na fyddai’n dilyn yr Eisteddfod fel arfer - ac mae hynny’n rhoi gwefr arbennig i mi. Rydyn ni’n genedl o gerddorion, beirdd, llenorion a chantorion eithriadol o ddawnus - a byddwn ni’n dathlu hynny yn ein rhaglenni.”

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd rhwng 3-11 Awst.

Bydd ‘Eisteddfod with Jason Mohammad’ yn cael ei darlledu nos Fercher, Awst 8 a nos Wener, Awst 10 ar BBC One Wales, 7.30pm.

BBC Cymru fydd yn cynhyrchu rhaglenni’r Eisteddfod i S4C hefyd, sef:

  • Croeso I’r Eisteddfod - Gwener, 8pm
  • Rhaglen Y Dydd - Sadwrn, 10am; Sul, 12pm; Llun-Sadwrn, 10am
  • Mwy O’r Maes - Sadwrn, 8pm; Sul, 9.35pm; Llun, 8pm; Mawrth, 8pm; Mercher, 9.30pm; Iau, 8pm; Gwener, 9.30pm & Sadwrn, 8pm
  • Oedfa’r Eisteddfod - Sul, 11am
  • Y Babell Lên - Llun, 10.30pm; Mawrth, 10pm; Mercher, 10.30pm; Iau, 10pm; Gwener, 10.30pm & Sadwrn, 10.30pm
  • Uchafbwyntiau’r Wythnos - Sul, 7.30pm
  • Uchafbwyntiau’r Babell Lên - Sul, 10.30pm

GE